PET(4)-07-11 p11a

P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2011

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ymhellach â phobl sy’n bridio cŵn fel hobi ac i beidio â gweithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2011 tan i’r gwaith hwn gael ei gwblhau.

Mae’n amlwg o’r gwaith o ddrafftio’r ddeddfwriaeth arfaethedig bod diffyg gwybodaeth sylfaenol am sefyllfa pobl sy’n bridio fel hobi yng Nghymru. Mae gan nifer ohonynt enw da ar lefel ryngwladol am fridio cŵn iach sy’n addas at eu pwrpas. Roedd cyfansoddiad y pwyllgor a luniodd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn ddiffygiol o’r cychwyn gan nad oedd yn ystyried nifer y bobl sy’n bridio cŵn fel hobi sy’n byw yng Nghymru. Mae’r holl bobl sy’n bridio fel hobi yn croesawu unrhyw ddull o atal bridwyr cŵn diegwyddor rhag gweithredu. Ein dadl ni yw bod ychwanegu at y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ac na chaiff ei gorfodi’n effeithiol yn wrthgynhyrchiol o ran yr ymdrechion i gyfyngu ar weithgareddau bridwyr cŵn didrwydded a’u harferion gresynus. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad arall â’r rhai sy’n bridio cŵn fel hobi ac i beidio â gweithredu'r Rheoliadau arfaethedig ynghylch Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2011 nes i’r ymgynghoriad ddod i ben.

Linc i’r ddeiseb:http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-313.htm

Cynigwyd gan: Colin Richardson

Nifer y llofnodion:825

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 25 Ionawr 2011

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y deisebydd.